Peski Nacht

Jacobs Antiques

Dychwelodd y label recordiau a’r curaduron celfyddydol Peski am un dro olaf yn Jacobs Antiques i ddathlu lleisiau newydd a phrofiadol o dirwedd cerddoriaeth a chelfyddyd weledol Cymru fel rhan o Ŵyl y Llais.

Roedd yr actau yn cynnwys Anelog o Sir Ddinbych, wnaeth ffurfio’i brand unigryw o gerddoriaeth pop-werin, y cynhyrchydd sy’n byw yng Nghaerdydd ACCÜ (cyn aelod Trwbador Angharad Van Rijswijk), yr arwr gwrth-bop Cymreig Y Pencadlys – sy’n adnabyddus am ei gigs angerddol, llawn bwganod operatig – a’r creadur hynod electrig sy’n byw yn Nottingham, Plyci, sydd wedi perfformio’n fyw drwy gydol y DU ac yn Ewrop.

Mae Recordiau Peski yn label a rheolwyr recordiau, a chyhoeddwyr cerddoriaeth yng Nghaerdydd. Mae’r label wedi rhyddhau recordiau gan artistiaid dylanwadol Cymreig yn cynnwys Cate Le Bon, Gwenno, R Seiliog ac Y Pencadlys.

Amseroedd fyny grisiau:
17:00 – DAVID MYSTERIOUS
18:00 – ACCÜ
19:00 – FARM HAND

Amseroedd lawr grisiau:
20:00 – ANELOG
21:00 – TWINFIELD
22:00 – LLWYBR LLAETHOG
23:00 – R SEILIOG
24:00 – Y PENCADLYS
01:00 – PLYCI