Dathlu Dydd Miwsig Cymru 

I’r rheini ohonoch sy’n gwirioni ar gerddoriaeth a gigio! Rydyn ni wedi creu rhestr chwarae Spotify sy’n cynnwys rhai o’n ffefrynnau Cymraeg er mwyn dathlu’r dewis helaeth o gerddoriaeth ar gael yn y Gymraeg. 

Mewn menter sydd â chefnogaeth DJs radio Cymraeg eu hiaith, Huw Stephens a Bethan Elfyn, mae Dydd Miwsig Cymru’n llawn dop o gyfleoedd gwahanol i ddarganfod seiniau newydd. Mae digon i’w wneud a digon o gyfle i ymuno’n yr hwyl, gan gynnwys gigiau rhad ac am ddim ledled Cymru…cymerwch gipolwg ar be’ sy’n digwydd. 

Ond am nawr, ymlaciwch a mwynhewch ein dewis eclectig o gerddoriaeth Cymraeg gyda’n rhestr chwarae Spotify:

 

#FoV2018 Welsh Music Day #GyLL2018 Dydd Miwsig Cymru

Postwyd gan