Gŵyl y Llais 2018 - Blwyddyn i fynd…

Gŵyl y Llais – Blwyddyn i fynd…

Graeme Farrow,

Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru a Gŵyl y Llais

Yr adeg hon y llynedd, mae’n anodd coelio ein bod yng nghanol ein gŵyl gyntaf ac roeddwn newydd gyfarfod â John Cale, un o fy arwyr cerddorol. Fe lofnododd fy albwm Velvet Underground a Nico cyn camu ar y llwyfan i berfformio sioe a hanner, a gwesteion fel Charlotte Church, Gwenno Saunders, Michael Sheen, Côr Gospel y Tŷ a cherddorfa siambr yn cadw cwmni iddo. Fe gawsant eu dwyn ynghyd i greu sioe gwbl unigryw ar y noson agoriadol. Roedd hynny’n arwydd o’r hyn oedd i ddod dros y 10 diwrnod nesaf wrth inni annog cynulleidfaoedd, cyfranwyr a ni’n hunain i grwydro oddi ar y llwybr cyfarwydd a darganfod pethau newydd.

Cafodd Gŵyl y Llais Canolfan Mileniwm Cymru ei chreu yn 2016 i ddathlu’r cysylltiad oesol rhwng Cymru a’r gân, ynghyd â’r effeithiau cadarnhaol y gall cydganu eu cael ar les pobl, boed wrth gyfrannu neu wrando a gwylio’n unig.

Wrth ei chynnal am y tro cyntaf, roedd Gŵyl y Llais yn gyfle i Gymru ddathlu’r hyn y mae’n fwyaf enwog am ei wneud: canu, ond mewn ffordd a oedd yn dathlu’r dyfodol yn ogystal â’r gorffennol, gydag artistiaid rhyngwladol a lleol yn rhannu ein llwyfannau. Gyda dros 15,000 o bobl o bob cwr o’r byd yn bresennol, a 10,000 arall yn ymddangos fel perfformwyr a chyfranwyr, roedd yr ŵyl yn siwrnai i bawb, a hynny mewn lleoliadau a chanolfannau celfyddydol ym mhob rhan o’r ddinas. Daeth pobl at ei gilydd i ddathlu’r gorau o’r hyn sy’n deillio o berthyn i’r ddynolryw a chyd-fyw yn y byd hwn, gan feithrin undod drwy’r ffurf buraf ar fynegiant – yr un offeryn yr ydym oll yn ei rannu.

Diben Gŵyl y Llais yw darganfod pethau newydd drwy gyfrannu ac ymdrwytho mewn cerddoriaeth – a dod o hyd i lais. Yn 2018, fe fydd yr Ŵyl yn comisiynu mwy o waith newydd ac unwaith eto yn trefnu bod artistiaid cyfoes a chlasurol a’r rheini o fyd opera a’r theatr yn cydweithio. Y tro hwn, y bwriad yw rhoi llwyfannau a fydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i siarad a thrafod rhai o’r themâu sy’n cael sylw yn y rhaglen.

Mae Gŵyl y Llais wedi’i gwreiddio mewn lleoliadau arbennig ac yng nghymunedau unigryw Caerdydd – pair cymysg o bobl o bob cenedl dan haul a ddaeth i ddociau hanesyddol y ddinas neu i weithio yn ei diwydiannau, ac amlddiwylliannaeth yn llond y lle. Gan feithrin ac annog cymdeithas i ymwneud â diwylliant drwy lais, bydd yr ŵyl yn rhoi cyfle i bobl ddefnyddio eu llais eu hunain. Byddwn hefyd yn dod ag artistiaid a chynulleidfaoedd ynghyd er mwyn iddynt wrando a chael eu clywed.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn datblygu ein hunaniaeth a’n stori, ac yn gweithio ar ailwampio ein gwefan a fydd yn cael ei lansio dros y misoedd nesaf. Rydym wedi bod yn gweithio gydag Ollie Norcott, y dylunydd graffeg o Gaerdydd, er mwyn creu elfennau gweledol cyffrous a fydd yn adlewyrchu uchelgais yr ŵyl i’r dim. Roeddem am gynrychioli’r llais yn weledol, ac fe wnaeth Ollie hyn gan gael ei ysbrydoli gan yr hyn a elwir yn ‘Symateg’ – sef proses lle daw patrymau i’r amlwg drwy chwarae cerddoriaeth, synau a lleisiau drwy ddŵr.

Rydym wedi bod yn ymweld â gwyliau, yn ymchwilio ac yn trafod sawl prosiect cydweithredol cyffrous. Mae’r gwaith o gynllunio a threfnu’r rhaglen yn mynd rhagddo yn dda a chredwn y bydd y cyfan yn arwain at ddathliad gwych o’r llais yn 2018, a hynny mewn lleoliadau ledled Caerdydd.

I fod ymhlith y cyntaf i glywed cyhoeddiadau am yr ŵyl dros y 12 mis nesaf, cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio ac edrychwn ymlaen at rannu gwybodaeth â chi am ŵyl arbennig iawn arall yn 2018.

Postwyd gan