Pecynnau Gŵyl y Llais

Mae Gŵyl y Llais yn eich gwahodd i ddilyn taith sain i ddarganfod pethau newydd. Hoffech chi weld mwy o sioeau am lai o arian? Rydyn ni wedi creu pedwar o becynnau unigryw, ac fe allwch chi weld tri pherfformiad ysbrydoledig am ddim ond £40! 

Mae’r pecyn Lleisiau Dyrchafol yn cyflwyno trac sain byw The Tiger Lillies i waith y ffotograffydd Nan Goldin (15 - 16 Mehefin); Karine Polwart, enillydd Gwobr Canwr Gwerin y Flwyddyn BBC Radio 2 (15 - 17 Mehefin); a Highway One yn cynnwys perfformiad byw gan Katell Keineg (6 - 10 Mehefin). 

Mae’r pecyn Lleisiau Swynol yn eich dwyn ar daith drwy sioe Remain in Light Angélique Kidjo – sef ail-ddehongliad o'r clasur o albwm gan Talking Heads (9 Mehefin) ; dehongliad jazz Orphy Robinson o Astral Weeks Van Morrison gyda’r lleisydd Zara McFarlane (10 Mehefin); ynghyd â’r gantores o Norwy, Susanne Sundfør gyda chefnogaeth gan Novo Amor (13 Mehefin). 

Mae’r pecyn Lleisiau Grymus yn gyfle i glywed y grŵp neo-soul trawiadol o New Orleans, Tank and the Bangas (8 Mehefin); Utopia gan Charlotte Church – gydag Iamamiwhoami, Le Gateau Chocolat a mwy (8 Mehefin); ynghyd ag egni a dylanwadau Gorllewin Affrica Ibibio Sound Machine gyda chefnogaeth gan Afrocluster (13 Mehefin). 

Yn rhan o’r pecyn Lleisiau sy’n Dyheu mae A Filetta, y cywaith lleisiol 6-dyn o Corsica, a fydd yn cyflwyno gwaith newydd am y tro cyntaf un (8 Mehefin); yr Atlantic Arc Orchestra – dan arweiniad Dónal Lunny, enillydd Gwobr Cyflawniad Oes Gwobrau Gwerin BBC Radio 2 (14 Mehefin); a’r ymgyrchydd gwleidyddol Billy Bragg a Nadine Shah yn y sioe Voices of Protest (7 Mehefin). 

Ffoniwch y swyddfa docynnau ar 029 20636 464 a sôn am y pecyn yr hoffech ei brynu.

 

*Yn amodol ar argaeledd. Nodwch am unrhyw berfformiadau yn Theatr Donald Gordon, mae'r cynnig hwn ond yn berthnasol i'r parth pris uchaf. Ni ellir cymhwyso gostyngiadau yn ôl-weithredol, a dim ond ar docynnau pris sylfaenol y gellir eu cymhwyso.

Postwyd gan