Uchafbwyntiau #GyLl2018 - Diwrnod 10

Cawsom ddiwrnod gwych ar ddydd Sadwrn olaf #GyLl2018. Roedd y diwrnod yn llawn o berfformiadau India - Cymru yn y gromen, gyda Kadar Khan Langa, Sun Dial a Hands of Time. Roedd digwyddiad Bedfellows, Sex Ed Assembly, wedi cael ei gynnal yn Chapter. Perfformiodd Karine Polwart ei sioe Wind Resistance eto, a camodd Carys Eleri i'r llwyfan am y tro Olaf cyn iddi deithio i Gaeredin fis Awst. Roedd noson Utopia wedi ei guradu gan Charlotte Church yn llawn hwyl, gan gynnwys perfformiadau gan DJ Andy Votel, Some Voices, Talia Randall, Le Gateau Chocolat, Fatoumata Diawara, ac Ionnalee.

Postwyd gan