Uchafbwyntiau #GyLl2018 - Diwrnod 4

Roedd dydd Sul 10 Mehefin yn ddiwrnod or-lawn arall yng Ngŵyl y Llais, yn dechrau gyda PROCESSIONS, gwaith celf cyfranogol torfol wedi ei gynhyrchu gan Artichoke a'i chomisiynu gan 14-18 NOW. Roedd perfformiadau hefyd gan Tim Bromage, Damp Sweats the House, Orphy Robinson yn cyflwyno Astral Weeks Van Morrison gyda Zara Mc Farlane. Roedd Highway One yn cael ei ddangos am y tro olaf i gynulleidfa llawn. Fe wnaeth H Hawkline chwarae set i gynhesu'r gynulleidfa cyn i Gruff Rhys a Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gyflwyno albwm newydd Gruff, Babelsberg.

Postwyd gan