Children of Zeus + Reykjavíkurdætur

Gan Chester P (Task Force), Ty (Live Band), Noname Disciple, AAA Badboy

Prosiect soul yw Children of Zeus gan ddau o artistiaid Manceinion uchaf eu parch, Konny Kon a Tyler Daley. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r ddeuawd wedi cyhoeddi traciau drwy First Word Records ac ar eu tudalen Soundcloud, gan ddenu carfan o ffaniau ffyddlon. Dyma wledd o gerddoriaeth soul clasurol i’r genhedlaeth hip hop. 

Mae Reykjavíkurdætur, sef ‘Merched Reykjavik’, yn griw rap sy’n cynnwys 10 merch o Wlad yr Iâ. Gyda’u geiriau trawiadol a pherfformiadau gwefreiddiol, mae’r merched em-sîs wedi creu si ym myd gwrywaidd y sîn hip hop yng Ngwlad yr Iâ. Yn niferus ac yn nerthol, maen nhw’n poeri geiriau Islandeg a Saesneg ynglŷn â ffeministiaeth, trais rhywiol, gwleidyddiaeth a rhyddid rhywiol. 

Bydd Children of Zeus a Reykjavíkurdætur yn camu i’r llwyfan ochr yn ochr â llwyth o dalent hip hop, gan gynnwys Chester P, Ty, Noname Disciple a Kaptin Barrett a adwaenir fel AAA Badboy.

Reykjavíkurdætur