Elvis Costello & The Imposters

Amser Gorffen Tua 9:30yp

Gwych iawn yw gallu croesawu Elvis Costello & The Imposters i Ganolfan Mileniwm Cymru er mwyn rhoi clo penigamp i Ŵyl y Llais 2018.

Tair ar ddeg oed oedd Elvis Costello pan ddechreuodd gyfansoddi caneuon. Roedd 2017 yn nodi deugain mlynedd ers rhyddhau ei albwm cyntaf, My Aim Is True.

Ymhlith ei ganeuon enwocaf mae Alison, Pump It Up ac Everyday I Write The Book, ynghyd â’i fersiwn o gân Nick Lowe, (What’s So Funny ‘Bout) Peace Love and Understanding, tra bo’i gatalog o dros ddeg albwm ar hugain yn cynnwys cyfuniad gwrthgyferbyniol o albymau pop a roc a rôl.

Mae wedi perfformio ar hyd a lled y byd gyda’i fandiau The Attractions, His Confederates – gyda dau o'r aelodau'n perthyn i fand “T.C.B” Elvis Presley – a’i grŵp presennol, The Imposters – Steve Nieve, Pete Thomas a Davey Faragher.

Yn ystod ei yrfa, mae Costello wedi ennill sawl gwobr fawreddog, gan gynnwys dwy Wobr Ivor Novello am gyfansoddi, a gwobr BAFTA am y gerddoriaeth a gyfansoddwyd gyda Richard Harvey ar gyfer cyfres ddrama deledu Alan Bleasdale, G.B.H. Enillodd hefyd wobr Grammy am I Still Have That Other Girl o'i gywaith yn 1998 gyda Burt Bacharach, Painted From Memory.