A Filetta

Amser Gorffen Tua 8:10yp

Mae gwrando ar A Filetta, yr ensemble lleisiol o Gorsica, fel mynd ar daith gerddorol gysegredig... Mae eu gwaith cyfareddol yn cynnwys cyfuniad eang o gerddoriaeth hen a newydd. 

Mae ynys Corsica ym Môr y Canoldir yn enwog am ei cherddoriaeth leisiol syfrdanol, ac mae chwech aelod A Filetta wedi bod yn rhan o’r traddodiad cerddorol hwn ers tro. Ffurfiwyd y grŵp creadigol yn wreiddiol i warchod cerddoriaeth eu rhanbarth, ond ers hynny maen nhw wedi ennill enw da yn rhyngwladol gyda’u cyfansoddiadau gwreiddiol rhyfeddol, a’r rheini wedi’u dylanwadu gan draddodiadau llafar yr ynys. 

Bydd hon yn noson o leisiau a fydd yn cyrraedd yr entrychion, harmonïau nefolaidd, a chaneuon cymhleth, polyffonig mewn tair rhan. Caiff ffilosoffi A Filetta ei grisialu yn y ddihareb hon gan y bardd o Ffrainc, René Char: "The purest harvests are sowed in a ground that does not exist; they get rid of gratitude and only owe to spring."

 

Reviews

"A FILETTA's voices speak to the skin as much as to the ear... A Filetta sing the soul of their island with a universal talent.” L’EXPRESS