Gruff Rhys a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

H.Hawkline

Y perfformiad cyntaf erioed. 

Ar gyfer première ei albwm newydd sbon Babelsberg, bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ymuno â Gruff Rhys ar gyfer perfformiad byw un tro, sef ei sioe gerddorfaol gyntaf erioed.

Bydd y noson hefyd yn cynnwys rhai o hen ganeuon Gruff, yn ogystal â band sydd wedi’i gynnull yn arbennig ar gyfer y perfformiad yma, fydd yn cynnwys Stephen Black (Sweet Baboo), Kliph Scurlock, Osian Gwynedd, Lisa Jên a Mirain Haf, ac eraill. 

Peidiwch â methu hon.

Trefniannau cerddorfaol ac arwain y gerddorfa gan Stephen McNeff.

Mae H. Hawkline yn agor i Gru Rhys gyda chyfres ddewr, freuddwydiol o ganeuon pop bisâr a seicedelig o’i albwm newydd I Romanticize.

H. Hawkline

 

Gruffrhys.com

Twitter.com/gruffingtonpost

Llun Gruff Rhys gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gan Kirsten Mcternan

Amser Gorffen Tua 10:30yp