INDIA-CYMRU

Kadar Khan Langa

Prosiect ar y cyd gan Ŵyl Riff Jodhpur, Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border a Gŵyl y Llais sy’n dathlu cerddoriaeth a chwedleua Rajasthan a Chymru.

Un o gantorion a cherddorion uchaf ei barch o Rajasthan yw Kadar Khan Langa. Mae’n hanu o’r gymuned Sarangia Langa, sef achwyr a cherddorion proffesiynol sy’n perfformio ar gyfer eu noddwyr a’u teuluoedd. 

Mae llais tyner a grymus Kadar-ji, ei alawon swynol a’i feistrolaeth o’r sarangi Sindhi yn enwog yn Rajasthan. Yn arw ac eto’n bersain, mae ei lais bariton yn cyseinio’n berffaith â ‘llais’ cyfoethog a melys y sarangi. Mae ei repertoire cerddorol yn amrywiol ac yn fawr ac yn rhychwantu cenedlaethau. 

Bydd Ashkar Khan Langa a Asin Khan Langa yn ymuno â Kadar yn lleisiol a saranghi Sindhi gyda Sawai Khan Manganiyar ar dholak.

Cefnogir gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig. Mae Kadar Khan Langa a’r artistiaid cysylltiedig yn ymddangos drwy garedigrwydd Jodhpur RIFF.