INDIA-CYMRU: Sun Dial

Prosiect ar y cyd gan Ŵyl Riff Jodhpur, Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border a Gŵyl y Llais sy’n dathlu cerddoriaeth a chwedleua Rajasthan a Chymru.

Gan ddod â cherddoriaeth Cymru a Rajasthan at ei gilydd gyda cherddoriaeth glasurol Sufiesque o India, dyma berfformiad gan feistr y kamaicha Dara Khan Manganiyar, yr offerynnwr taro Sawai Khan Manganiyar, y canwr-gyfansoddwr o Gymru Gwilym Morus a’r gantores Sufi a Hindustani clasurol Smita Rao Bellur. Gan daflu hen gerddi Sufi, alawon yr anialwch a cherddoriaeth a barddoniaeth Gymreig i’r pair, perfformiwyd y potes hyfryd yma o synergedd artistig gyda ffilmiau llawn awyrgylch yn y cefndir a saethwyd ledled Rajasthan a Chymru, wedi’u golygu a’u cynhyrchu gan 4Pi Productions.

Amser Gorffen Tua 2:20yp

Cefnogir gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig. Mae Kadar Khan Langa a’r artistiaid cysylltiedig yn ymddangos drwy garedigrwydd Jodhpur RIFF.