Noson yng nghwmni Patti Smith

Gyda Lenny Kaye a Tony Shanahan

Amser Gorffen Tua 10:00yp

Patti Smith. Cerddor. Artist. Ymgyrchwraig. Bardd. 

Yn y 70au, daeth Patti yn hynod ddylanwadol ar sîn pync Efrog Newydd. Bu’n artist ers pedwar degawd, ac mae ganddi'r gallu i swyno pobl. Mae'n bleser aruthrol gan Ŵyl y Llais i’w gwahodd i berfformio yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers iddi chware i dorf yn y Gyfnewidfa Lo yn 2011. 

Yn 2009 cafodd Horses, record gyntaf Patti yn 1975, ei chynnwys ar y Gofrestr Recordio Genedlaethol yn Llyfrgell y Gyngres. Mae’n gyfrifol am 13 albwm, wedi cael 4 enwebiad Grammy, ac enwebiad Golden Globe am y gân Mercy Is o’r ffilm Noah. Detholiad yn unig yw hynny o’r gwobrau, yr enwebiadau a’r anrhydeddau y mae’r fenyw ryfeddol hon wedi’u hennill. 

Mae Patti Smith yn parhau i ysgrifennu, i berfformio’i gwaith, i weithio ar brosiectau artistig, ac i roi ei chefnogaeth i faterion hawliau dynol.

Pattismith.net 

Facebook.com/PattiSmithAuthor

 

Llun Patti Smith gan Edward Mapplethorpe