Passenger

+ Stu Larsen

Mae llawer o ddŵr wedi llifo dan y bont ers i Mike Rosenberg, y canwr-gyfansoddwr o Brydain sy’n recordio ac yn perfformio o dan yr enw Passenger, arwyddo i IE Music yn 17 oed. Cyrhaeddodd 'Let Her Go', ei sengl ryfeddol, frig y siartiau mewn 20 o wledydd. Enillodd y sengl honno wobr Ivor Novello ac fe’i gwyliwyd dros un biliwn o weithiau ar YouTube.

Cyrhaeddodd wythfed albwm Passenger, ‘Young as the Morning, Old as The Sea’, rif un yn y Deyrnas Unedig, Awstralia, Seland Newydd a’r Swistir ar ôl ei ryddhau yn 2016. Ers hynny, ynghyd â thaith fyd-eang, mae wedi rhyddhau ei nawfed albwm stiwdio ar ei liwt ei hun. Yn rhyfeddol, cyrhaeddodd ‘The Boy Who Cried Wolf’ y 5 uchaf yn siart albymau’r Deyrnas Unedig, a’r 10 uchaf mewn nifer o wledydd drwy’r byd. Mae hyn yn gryn gamp am albwm a ryddhawyd yn uniongyrchol i’w ddilynwyr.

Mae’r cerddor Stu Larsen (Vagabond, Resolute) eisiau deffro rhywbeth positif yn ei wrandawyr. Mae’n cymryd saib o’i siwrne rhwng bro ei febyd, Awstralia, Sbaen a Japan i ddod â seiniau sy'n adlewyrchu natur byw bywyd.

 

Passengermusic.com

Twitter.com/passengermusic

Llun Passenger gan Jarrad Seng