Scritti Politti + Alexis Taylor

Tramshed
Roedd dau o leisiau mwyaf arbennig cerddoriaeth Brydeinig mewn rhaglen ddwbl anhygoel ar gyfer Gŵyl y Llais oedd yn cynnwys y band pop chwedlonol Scritti Politti a phrif leisydd Hot Chip Alexis Taylor.

Gan ymddangos yng Nghamden yn yr 1970au, gwnaeth Scritti Politti gyfuno egni amrwd pync a synau garw arbrofol gyda geiriau astrus. Er i’w sefydlydd Green Gartside ddioddef o ofn mawr o’r llwyfan, gan brin ymddangos yn fyw, gwnaeth Scritti enw rhyngwladol i’w hunain erbyn canol yr 1980au, gyda phedwar albwm nodedig yn rhychwantu soul-pop, synth funk, reggae a hip hop. Gan ddychwelyd yn 2006 gyda’u halbwm White Bread, Black Beer a dderbyniodd enwebiad Gwobr Gerddoriaeth Mercury, mae Scritti wedi cydweithio yn ddiweddar ag artistiaid fel Tracey Thorn a Manic Street Preachers, oedd ar eu halbwm Futurology o 2014, ac ymunodd â’r band yn ystod nifer o ddyddiadau yn eu taith wedi hyn.

Mae Alexis Taylor yn gerddor, cynhyrchydd a chyfansoddwr o Lundain. Ar ôl ffurfio Hot Chip gyda Joe Goddard tra’n ysgol, aeth ymlaen i wneud pum albwm gyda’r band pop sy’n bellach yn griw o bump. Mae’n ganwr-gyfansoddwr myfyriol sy’n chwarae synth, piano a gitâr, ac mae wedi rhyddhau recordiau unigol ar labelau Treader a Domino a thri albwm nodedig gyda’r prosiect cerddorol byrfyfyr/myfyr About Group. Mae Taylor wedi cydweithio gyda’r artistiaid gweledol sydd wedi ennill Gwobr Venice Biennale Oliver Payne a Nick Relph, ynghyd â’r cynhyrchydd Almaenig Justus Köhncke yn y deuawd Fainting By Numbers. Yn ddiweddar, mae hefyd wedi perfformio dehongliadau o ganeuon gwerin wedi’u trefnu gan Benjamin Britten gyda chanwr Scritti Politti, Green Gartside.

 

www.scritti.net | @scrittipolitti

www.dominorecordco.com/artists/alexis-taylor/ | @Hot_Chip