SIMON BRAY: FFOTOGRAPHAU O GYMRU A RAJASTHAN

7 - 17 Mehefin

Mae gan ddiwylliant Cymru a Rajasthan gyfoeth hanesyddol wedi eu gwreiddio mewn crefydd, chwedloniaeth a chymunedau sydd wedi eu huno gan gerddoriaeth. ‘Roeddwn yn awyddus i ddathlu’r undod yma gyda delweddau tirwedd cyferbyniol. Gyda’u ffurf, tonyddiaeth a thestun mae pob pâr o ffotograffau yn ennyn trafodaeth ynglyn a’r ddau le hudolus, sydd wedi darparu toreth o olau a golygfeydd prydferth i’m gwaith.