Slowly Rolling Camera

Canolfan Celfyddydau Chapter

Wedi’i ystyried fel un o arloeswyr y genre “nu-soul”/electro Groove, mae Slowly Rolling Camera yn effeithio’n fawr ar y sîn gerddorol yn y DU ar hyn o bryd. Gyda’i ddychymyg a chyfansoddiadau gwreiddiol sy’n cyfuno jazz, soul, trip hop a cherddoriaeth electronig, roedden ni wrth ein boddau i gael rannu'r sainwedd cerddorol gwirioneddol unigryw.

Mae gweld y band yn fyw yn brofiad rhyfeddol, ac – o’i gartref yng Nghaerdydd i ganoldiroedd Ewrop – maen nhw wedi bod yn gwefreiddio cynulleidfaoedd mewn clybiau a gwyliau mawrion fel ei gilydd, gan gynnwys Umea Jazz Fest, Lotus Jazz Festival a Love Supreme. Mae’i albwm cyntaf a ryddhawyd ar recordiau Edition yn y llynedd, yn cyfateb â’u perfformiadau byw i’r dim. Yn nhŷb BuzzMag, mae’n “stunning first album” ac AllAboutJazz yn dweud ei fod yn “beautiful, imaginative and ambitious”.  Mae’i EP diweddaraf, “Into the Distance” yn parhau ar y trywydd soniarus yma, ac yn ennyn cymariaethau i grwpiau eiconig fel Portishead a Massive Attack. Mae’r allweddellwr Dave Stapleton yn crefftio melodïau moethus ac yn taro’r hoelen berffaith rhwng yr arbrofol a gwreiddiau soul y band, gyda thalent addawol Dionne Bennett yn darparu’r prif lais ac harmonïau lleisiol â phresenoldeb a nerth di-ail. Yn cwblhau’r band y mae’r aml-offerynnwr Deri Roberts ar gyfansoddiadau electronig, trombôn a sacsoffon ac Elliot Bennett ar y drymiau a rhaglennu drymo. 

http://slowlyrollingcamera.com/