Tank and the Bangas

Maen nhw wedi denu torfeydd ar hyd a lled Ewrop a’r Unol Daleithiau gyda’u cyfuniad di-fai o rap, barddoniaeth lafar a neo-soul, yn ogystal ag ennill Gwobr Tiny Desk Contest yr NPR yn 2017. Mae gan y grŵp lliwgar hwn o artistiaid dalent brin wrth ddod â sawl arddull gerddorol wahanol ynghyd mewn un perfformiad cyflawn, gwefreiddiol. 

Mae’r sŵn yn un potes rhyfeddol, wrth i’r Bangas gyfuno technegau cerddorol amrywiol ochr yn ochr â geiriau clyfar gan y prif leisydd, Tarriona "Tank” Ball. Yn wir, mae gan Tank and the Bangas sain unigryw dros ben sy’n golygu eu bod yn un o grwpiau mwyaf arbennig New Orleans. 

Byddwch yn barod am gig chwareus a lliwgar a fydd yn eich gadael yn wên i gyd. Mewn gair, fe fydd y band yn eich gwefreiddio.

Reviews

"Refusing to conform to the norm in music, Tank and the Bangas have added some tabasco sauce to the jazz stereotypes that litter the French Quarter" Okay Player