WNO: Cavalleria rusticana & Pagliacci

Theatr Donald Gordon

Y pâr perffaith hwn o drasiedïau oedd perfformiad cyntaf Opera Cenedlaethol Cymru yn 1946. Mae Cav a Pag (fel maent yn cael eu hadnabod) mor angerddol a dwys ag y gall unrhyw opera Eidalaidd fod.

Mae’r ddwy opera’n llawn drama a cherddoriaeth bwerus ac yn para ychydig dros awr yr un. Ymhlith uchafbwyntiau Cavalleria rusticana mae Emyn godidog y Pasga’r Intermezzo. Mae Pagliacci yn cynnwys un o’r arias gorau erioed i denoriaid,Vesti la giubba, gyda’r clown Canio newydd ddod i wybod bod ei wraig yn anffyddlon iddo. Mae’n hunandosturiol iawn am ei sefyllfa wrth baratoi i gamu ar y llwyfan. Mae’n rhaid iddo actio’r ffŵl er ei fod yn marw y tu mewn.

Ar gyfer y cynhyrchiad cyfnod godidog hwn, mae sgwâr mewn pentref Sisilaidd wedi cael ei ail-greu. Mae’n briodol iawn bod y cast ar gyfer y perfformiadau pen blwydd hyn yn cynnwys rhai o gantorion opera gorau Cymru. 

Arweinydd Carlo Rizzi
Cyfarwyddwr Elijah Moshinsky
Cynllunydd Michael Yeargan
Cynllunydd Goleuo Howard Harrison

Cast Cavalleria rusticana
Turiddu 
Gwyn Hughes Jones
Alfio David Kempster
Santuzza Camilla Roberts
Mamma Lucia Anne-Marie Owens
Lola Rebecca Afonwy-Jones

Cast Pagliacci
Canio Gwyn Hughes Jones
Tonio David Kempster
Nedda I’w gadarnhau
Silvio I’w gadarnhau

Cenir mewn Eidaleg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg.