Bwletin #MAQUIS. Stop. Dyddiad rhyddhau: dydd Mawrth 22 Mai. Stop.
Galw ar bobl Caerdydd i godi eu lleisiau a rhyddhau eu tir. Stop.
Bobl Caerdydd, cymerwch sylw. Mae cymundod cudd o’r enw’r #Maquis wedi dod ynghyd i’n hannog ni i gyd i godi ein lleisiau, camu o’r cysgodion a rhyddhau ein tir.
Rhaid cyfathrebu drwy Ŵyl y Llais – er mwyn diogelu ein hunain. Yn ôl y sôn bydd cyfarfodydd cudd y #Maquis yn digwydd o 5pm ddydd Iau 7 Mehefin ymlaen, mewn adeilad gwag yng nghanol y ddinas, sy’n llawn contraband. Fydd y gell yma ddim ond yn bodoli am 11 noson, tan ddydd Sul 17 Mehefin. Rhaid sicrhau na fydd y Gelyn yn sleifio i ganol cymundod #Maquis, felly bydd rhaid i’r cyfan ddod i ben ar ôl hynny.
Bydd cymysgydd diodydd gwaharddedig yn gweini ‘GWIRODYDD’ clasurol o’r bar er mwyn rhoi digon o blwc i chi a thân yn eich bol ar gyfer yr her sydd o’ch blaenau.
Drwy gydol y noson, bydd Radio Barkas yn anfon negeseuon cudd at y rheng flaen drwy hen recordiau feinyl, er mwyn rhybuddio ein Cymrodyr am unrhyw berygl sydd gerllaw.
Bydd eich presenoldeb yn y cyfarfodydd cudd yn gwbl gyfrinachol, rhaid trefnu ymlaen llaw, a dylid cadw’r cyfathrebu i Twitter drwy gyfrif @DTAcardiff tan i chi glywed fel arall. Bydd y #Maquis yn cysylltu â chi wedyn gyda chyfarwyddiadau pellach ar sut i gyrraedd eu man cyfarfod cudd. Bydd y cyfarfodydd yn fach er mwyn sicrhau cyfrinachedd, felly cysylltwch yn fuan i sicrhau mynediad. Bydd y llinellau ar agor o ddydd Mawrth 22 Mai ymlaen.
Anogir disgresiwn. A chuddwisg.
“Beth bynnag ddigwydd, rhaid cadw fflam ein pobl ynghyn” meddai un o gynghreiriaid y #Maquis.
Drwy ddod, byddwch yn ymrwymo i gefnogi’r Achos. Helpwch ni i ledaenu’r gair i bobl o’r un anian. Rydyn ni am gyrraedd pawb fyddai â diddordeb mewn dod yn rhan o’r mudiad dethol yma.
Wnewch chi ymuno â nhw a chodi eich llais…?
“Cysgwch yn dawel gan wybod eich bod wedi gwneud eich rhan i danseilio’r gelyn” meddai un arall o gynghreiriaid y #Maquis. Stop.