Uchafbwyntiau #GyLl2018 - Diwrnod 9

Roedd 'na lond trol o artistiaid gwych i'n tywys i fewn i benwythnos olaf Gŵyl y Llais. Wnaethon ni ddechrau gyda 'Body Language' gan Jennifer Hartley, cyn i berfformiadau gyda'r nos ddechrau. Perfformiodd Gwenno ei chomisiwn newydd Edrica, cyflwynodd The Tiger Lillies 'The Ballad of Sexual Dependency', a heddiw oedd perfformiad cyntaf Wind Resistance gan Karine Polwart. Roedd Epilog yn y New Theatr, sef dathliad o gerddoriaeth o operâu roc y 60au a 70au, Finery + Charlie Francis + Cotton Wolf yn Chapter, ac fe wnaeth Clwb Ifor Bach gynnal noson arbennig Breakin' the Bay cynnwys perfformiadau gan The Four Owls, Free Wize Men a mwy. Roedd hefyd rhagor o berfformaidau Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff) a Double Vision gan Gagglebabble.

Postwyd gan