INDIA-CYMRU: Hands of Time

Prosiect ar y cyd gan Ŵyl Riff Jodhpur, Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border a Gŵyl y Llais sy’n dathlu cerddoriaeth a chwedleua Rajasthan a Chymru.

Yr eiliadau olaf cyn toriad gwawr. Mae’r galw i weddïo yn codi o’r meindyrau ledled 

Jodhpur. Mae cerddor yn pwyso kamaicha ar ei ysgwydd, yn codi bwa ac yn canu nodyn cyntaf yr hen alaw sydd wedi anrhydeddu gwawriau di-rif yn y diffeithdir. Gyda’r gerddoriaeth, mae’n deffro straeon y diwrnod, yn rhyddhau ffodion sydd wedi’u cysylltu gan ddwylo amser ar draws cyfandiroedd a diwylliannol, nes i fardd mewn gwlad bell canu galargan y diwrnod wrth i’r haul blymio i ddyfnderoedd Bae Ceredigion. 

Mae’r gantores Sufi a Hindustani clasurol Smita Rao Bellur, meistr y kamaicha Dara Khan Manganiyar a’r offerynnwr taro Sawai Khan Manganiyar yn ymuno â’r canwr-gyfansoddwr o Gymru Gwilym Morus a’r chwedleuwraig Angharad Wynne i blethu straeon o’r ddau draddodiad, gyda ffilmiau llawn awyrgylch yn y cefndir a saethwyd ledled Rajasthan a Chymru, wedi’u golygu a’u cynhyrchu gan 4Pi Productions. 

Cefnogir gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig. Mae Kadar Khan Langa a’r artistiaid cysylltiedig yn ymddangos drwy garedigrwydd Jodhpur RIFF.