Mariza

Theatr Donald Gordon

Mae Mariza, sef cantores fado gyfoes mwyaf poblogaidd y byd, yn wyneb modern i hen draddodiad.

Wrth fynd â cherddoriaeth fado y tu hwnt i ffiniau Portiwgal er mwyn chwilio am hunaniaeth newydd cosmopolitan, mae Marizawedi ennill canmoliaeth ryngwladol; mae wedi perfformio ar rai o lwyfannau mwyaf mawreddog y byd, wedi gwerthu mwy na miliwn o recordiau ac wedi cael mwy na 30 gwobr Blatinwm.

Fel enillydd cyntaf erioed Gwobr y BBC am Gerddoriaeth Fyd, daeth Mariza â’i llais arbennig a’i brwdfrydedd heintus i Gaerdydd mewn perfformiad unigryw.

www.mariza.com | @marizaoficial