Piaf!

Theatr Donald Gordon

Gyda mwy na 100 o sioeau wedi’u gwerthu’n llwyr ar draws tri chyfandir, mae Piaf! The Show yn dathlu canmlwyddiant grande dame pennaf cerddoriaeth Ffrengig.

Mae Anne Carrere yn dathlu gyrfa hynod Edith Piaf, ei llais a’i chaneuon – La Vie en RoseL’Hymne à L’AmourMilord ac wrth gwrs Non, Je Ne Regrette Rien – un o anthemau mawr hunan-rymuso. Wedi’i hysbrydoli gan y biopic o 2007 a enillodd Oscar, talodd Carrere teyrnged i’r arwres gerddorol yma ar draws dwy act, gan ddilyn llwybr Piaf o strydoedd Pigalle i lwyfannau mwyaf y byd.

Gyda phedwarawd anhygoel a thafluniadau atmospherig cefndirol oedd yn cynnwys ffotograffau newydd ddod i’r golwg, roedd y sioe boblogaidd yma’n deyrnged berffaith i un o sêr rhyngwladol gorau Ffrainc a Pharis ei chyfnod.

Reviews

“Carrere’s extraordinary stage presence evokes Piaf at her greatest, and at her most vulnerable” Buenos Aires Herald