Ronnie Spector Sings The Fabulous Ronettes

Neuadd Dewi Sant

Yn cael ei hadnabod fel ‘merch ddrwg gyntaf roc a rôl’, roedd Ronnie Spector yn dathlu gyrfa o dros 50 mlynedd yng Ngŵyl y Llais.

Fel ymgorfforiad calon, enaid ac angerdd roc a rôl benywaidd, daeth Ronnie yn enwog yn y 1960au fel prif gantores y Ronettes. Gyda’r Rolling Stones ac Eric Clapton a’r Yardbirds yn agor iddyn nhw, roedd y Ronettes yn canu rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif, yn cynnwys Be My Baby aWalking in the Rain. Cafodd y Ronettes ei gynnwys yn y Rock & Roll Hall of Fame fis Mawrth 2007 a Ronnie ei hun ei chydnabod am ei chyfraniad i gerddoriaeth bop Americanaidd a’i chyflwyno i’r Vocal Group Hall Of Fame yn 2004.

Gyda llais rymus nodweddiadol ac agwedd ddewr, mae naws ryfeddol Ronnie wnaeth gipio dychymyg y cyhoedd o’r dechrau yn bodoli o hyd. 

www.ronniespector.com | @RonnieSpectorGS