Ben Folds & yMusic + Lera Lynn

Donald Gordon Theatre

Daeth y canwr-gyfansoddwr a phianydd Ben Folds â’r bydoedd clasurol a phop at ei gilydd gyda’i brosiect diweddaraf â’r ensemble siambr adnabyddus o Efrog Newydd, yMusic.

Fel llais dylanwadol yn y maes cerddorol ers 1995, daeth Folds i’r amlwg yn wreiddiol fel dyn blaen y grŵp clodfawr, Ben Folds Five. Ers hynny, mae wedi cael gyrfa unigol lwyddiannus, gan recordio nifer o albymau stiwdio a cherddoriaeth ar gyfer ffilm a theledu. Gyda chaneuon newydd a threfniannau o’r hen ffefrynnau, mae offeryniaeth ddyfeisgar a pherfformiadau meistrolgar yMusic ar y cyd â chyfansoddiadau unigryw Folds yn creu noson afaelgar o roc-siambr.

Wrth agor y sioe, daeth y gantores-gyfansoddwraig o Nashville, Lera Lynn â’i gwreiddioldeb sioe lwyfan ac agos atoch ôl-Americanaidd i Ŵyl y Llais. Mae Lynn wedi derbyn sylw yn y cyfryngau yn fyd-eang am ei gwaith gyda’r cynhyrchydd chwedlonnol T Bone Burnett, gan gyfansoddi a recordio’r gerddoriaeth ar gyfer y gyfres HBO boblogaidd, True Detective, ac wedi ymddangos dro ar ôl tro yn y gyfres fel cantores mewn bar. Mae ei halbwm, The Avenues, wedi derbyn cryn dipyn o ganmoliaeth ac wedi denu sylw’r cylchgrawn American Songwriter, Rollling Stone a’r Huffington Post, gan gyrraedd nifer o restrau Albymau Gorau’r Flwyddyn hefyd.

Reviews

“On stage, he is just a wonder to watch, as a pianist, as a lyricist, as a composer, a conductor and as a man.” Vibes Music Blog