Georgia + Summer Ghost + LUK

Canolfan Celfyddydau Chapter

Bu'r gantores deimladwy sy’n profocio’n aflafar, yn aml-offerynwraig, yn gynhyrchydd ac yn gyfansoddwraig, Georgia Barnes yng Nghaerdydd fel rhan o Ŵyl y Llais.

Ganwyd Georgia yng ngogledd-orllewin Llundain, gan sefydlu ei hun fel aelod pwysig o gylchoedd artistig mwyaf dychmygus y ddinas, yn chwarae drymiau ar gyfer Kwes a Kate Tempest ymhlith eraill. Wrth gamu o du ôl y drymiau, ymddangosodd fel grym creadigol unigryw gyda’r EP o 2014, Come In.

Wedi’i dylanwadu gan artistiaid fel Missy Elliot, MIA a Karin Dreijer Andersson, mae ei halbym cyntaf – Georgia – yn ei harddangos fel curadur nodedig, cyfansoddwr arbennig a chynhyrchydd o bop electronig blaengar a neilltuol sy’n llawn enaid.

Bu'r canwr a’r cynhyrchydd blaengar Summer Ghost hefyd yn perfformio yng Ngŵyl y Llais. Gyda chyfansoddiadau electronig garw ac emosiynol yn anffurfio a gwyrdroi synau, mae cerddoriaeth Summer Ghost yn nofio rhwng sain sinematig a bachau pop. Dangosodd yr EP Feel4Ever yn 2014 allu’r canwr i greu cyfansoddiadau pop effeithiol, tra bod mawredd offerynnol Catechism/Muzzle a ddaeth allan eleni yn arddangos ei grefft fel cynhyrchydd.