Fy nhaith i Ŵyl y Llais gan Poppy Sturgess

Fy nhaith i Ŵyl y Llais…

Felly, pan ofynnwyd i mi ysgrifennu blog ynghylch beth ddaeth â fi at Ŵyl y Llais, fe ddaeth cerddoriaeth “This is Your Life” i mhen i yn syth. Ac yn syth wedyn, aeth cymysgedd o ddelweddau drwy mhen – delweddau o nosweithiau hwyr, aros yn fy mhyjamas drwy’r dydd, yn sownd wrth fy ngliniadur, yn syllu ar y nifer geiriau ar waelod traethawd 3 o 5, yn gobeithio y byddai’n cynyddu’n wyrthiol o flaen fy llygaid, a’r teimlad o arswyd sy’n dod gyda’r cyfan. Mae fy meddwl wedi neidio’n ôl i fy mywyd fel myfyriwr. Daethpwyd â fi’n gyflym yn ôl i’r presennol, a sylweddolais fod y nosweithiau hwyr a’r teimlad o ofn werth y cyfan yn y pendraw...

Wrth dyfu i fyny ym mhellteroedd Wiltshire (h.y. yng nghanol nunlle), roeddwn i’n breuddwydio am ymestyn allan a symud i’r ddinas. Y Brifysgol oedd fy nghyfle, ac yn sgil fy nghariad at bopeth yn ymwneud â theatr, cerddoriaeth a’r celfyddydau, fe es i i Gaerdydd i astudio Drama ym Mhrifysgol De Cymru. Wedi treulio blynyddoedd hir a chaled, ond gwych ac ysbrydoledig yr un pryd, fedrwn i ddim gadael yr hyn yr oeddwn i bellach yn ei ystyried yn ‘adref’.

Bryd hynny, doeddwn i dal ddim yn siŵr beth roeddwn i am ei wneud gyda fy ngyrfa ac, wrth ddod allan o’r brifysgol, gall hynny fod yn eithaf brawychus. Ond mewn gwirionedd, dyma oedd y sefyllfa orau, oherwydd adegau fel hyn sy’n caniatáu i chi brofi ac archwilio’r cyfleoedd sydd allan yna ar eich cyfer. Fe wnes i drio... dysgu’r ffliwt i blant bach; bod yn goedwigwr mewn opera ieuenctid wrth edrych fel Gandalf gyda barf ffug; ‘actio’ mewn comedi go bethma uwch ben yr hen Dempsey’s (oo, Dempsey’s); a fy ffefryn, anafu fy nghefn pan oeddwn i’n ben ôl ‘Daisy’r fuwch’ mewn panto Nadolig amatur. Mae’n rhaid i bawb ddechrau’n rhywle, on’d oes?!

Wrth gwrs, doedd hyn oll ddim yn ddigon i roi to uwch fy mhen, na phot noodle ar fy mhlât, felly roedd hyn oll ar y cyd â swydd ran-amser mewn manwerthu. Roedd manwerthu yn ddigon o hwyl ar y dechrau, ac fe wnes i gymryd mantais o’r disgownt staff, yn sicr. Ond, wrth i bob cyfnod sêls manig fynd heibio, roeddwn i’n medru gweld ochr greadigol fy ymennydd yn dirywio’n araf bach. Doedd manwerthu ddim i mi.

Roedd yn rhaid i mi wneud rhywbeth. Roedd yn rhaid i mi newid fy swydd. Roedd yn rhaid i mi wneud penderfyniad ynghylch beth i’w wneud gyda fy mywyd! Ac rwy’n siŵr y byddai nifer y fy nghyd-Librans yn cytuno, nid gwneud penderfyniadau yw ein cryfder... roedd hi’n broses hir. Yn y pendraw, penderfynais ddychwelyd i fyd addysg, i fagu fy sgiliau ac ail-ddarganfod fy hyder yn fy ngallu artistig. Fe wnes i gofrestru ar y cwrs meistr Rheoli’r Celfyddydau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac fe wnes i ymroi i bob cyfle posib y tu allan a’r tu mewn i’r coleg. Cyn pen dim, roeddwn i’n boddi mewn taenlenni, power point a siartiau Gant, ac roeddwn i wrth fy modd! Yn ogystal, rhoddodd y cwrs gyfle i fy ochr greadigol lifo unwaith eto.

Roedd fy nghwrs wedi’i wneud o amrywiol fodiwlau, yn canolbwyntio ar farchnata a chyfathrebu, cynhyrchu creadigol, curadu gwyliau ac addysg a thechnoleg yn y celfyddydau. Roedd hyn yn gydbwysedd gwych rhwng gweinyddiaeth a chreadigrwydd ac yn aml, rhoddwyd y cyfle i ni weld prosiect o’r dechrau i’r diwedd, gan gwmpasu’r holl elfennau uchod. Cynhyrchu creadigol a churadu gwyliau oedd fy hoff agweddau ar y cwrs yn sicr, ac fe wnaethant ganiatáu i mi archwilio gwyliau celfyddydau rhyngwladol o amgylch y byd. Fe wnaethom ganolbwyntio ar gydweithio gyda chynhyrchwyr theatr a cherddoriaeth Ewropeaidd, rhywbeth a oedd yn hynod o berthnasol ar y pryd gyda’r refferendwm ar ei ffordd – ac, wel, rydyn ni i gyd yn gwybod sut wnaeth hynny orffen...

Fel rhan o’r cwrs, rhoddwyd cyfle i mi fynd ar leoliad proffesiynol a, phwy feddyliai, cefais fy nerbyn fel Cynorthwyydd yr Ŵyl ar gyfer Gŵyl y Llais 2016. Pan gefais wybod am hyn, fe neidiais yn yr awyr a sgrechian fel peth gwirion – roeddwn i wrth fy modd! Cyrhaeddodd y diwrnod cyntaf, ac wedi peth ymchwil cychwynnol am y tîm (h.y. stelcian ar y cyfryngau cymdeithasol), roeddwn i’n teimlo fel rhan o’r tîm mewn dim. (Ac ie, ein hwynebau gloyw ni sydd yn y llun uchod ar ddiwrnod olaf yr ŵyl – roedd hi wedi bod yn gwpl o wythnosau poeth iawn!)

Fe es i ati’n syth i weithio ar dasgau cyswllt artistiaid, oedd yn cynnwys cadarnhau gofynion lletygarwch, trefnu arlwyo, llogi ceir, bwcio ystafelloedd mewn gwestai, cysylltu â rheolwyr teithiau ar gyfer amserlennu a llogi tyweli – ie, tyweli. Gyda dros 100 o berfformwyr, roedd llawer o bobl i’w bwydo, ac roedd y rhestrau o eitemau bwyd yn eang a dweud y lleiaf. Hefyd, mae’n rhaid ei bod hi’n flwyddyn yr ‘hipsters’ gan mai hummus, afocados a llaeth almon heb ei felysu oedd ar frig y rhestr wrth siopa am ofynion yr artistiaid – dim cweit y ‘sex, drugs and rock ‘n’ roll’ yr oeddwn i wedi’i ddisgwyl, wnaeth ond wneud i mi ei hoffi’n fwy.

Pan ddaeth hi i’r ŵyl ei hun, roedd y tîm cyfan wrthi o fore gwyn tan nos bob dydd. Roedd bob bore yn dechrau gyda choffi cryf, dal i fyny ar ddigwyddiadau’r diwrnod blaenorol yn cynnwys ein huchafbwyntiau a’r amserlen ar gyfer y diwrnod. Roedd gen i ormod o uchafbwyntiau i’w nodi, ond ychydig o fy ffefrynnau oedd House Gospel Choir yn The Globe, doedd y gynulleidfa ddim am iddynt orffen a bu raid iddyn nhw wneud dau ‘encore’, roedd pawb ar eu traed yn dawnsio i’w lleisiau teimladwy gwych. Un arall o fy uchafbwyntiau oedd y noson agoriadol gyda John Cale, Gwenno, Charlotte Church a Michael Sheen yn Neuadd Dewi Sant. Roedd yn foment arbennig iawn ac fe daniodd y perfformiadau gwych oedd i ddilyn dros y 10 diwrnod dilynol.

Wnaeth y daith ddim gorffen yno, ond dwi’n siŵr mod i wedi dweud digon am nawr. I’w barhau...

Postwyd gan