O Fryste i Gaerdydd, a phopeth rhwng y ddau

gan Naomi Jeremy

Mae hi ychydig dros ddeufis ers i mi ddechrau fy swydd newydd a dwi’n mwynhau pob eiliad wrth weithio ar Ŵyl Gelfyddydau Ryngwladol ar gyfer Caerdydd. Fy enw i yw Naomi, un o Swyddogion Marchnata a Chyfathrebu Llawrydd Gŵyl y Llais. Dwi o Fryste yn wreiddiol, ond wrth fy modd yn cael y cyfle i weithio yng Nghaerdydd a Bryste, dwy ddinas greadigol wych.

Mae cerddoriaeth wedi bod yn ran o’m bywyd ers cyn côf. ‘Roeddwn wedi gwirioni’n llwyr ar ganu pobl tebyg i Jill Scott, Lauren Hill a Bill Withers; rhai o’m harwyr cerddorol. Gwyddwn yn ifanc iawn fy mod yn benderfynol i ymgolli’n hun yn llwyr ym mhopeth cerddorol, ac felly i ffwrdd a fi!

Astudiais gerddoriaeth, cyfansoddi a pherfformio yn Access to Music, gan fynd ymlaen i astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bath Spa. Mi fwynheuais pob munud, ac mi ‘roedd yn gyfle grêt i arbrofi gyda’m sŵn, i gydweithio ac eraill a hefyd i ddysgu sgiliau ym meysydd marchnata cerddoriaeth, adeiladu gwefanau a’r modd mae’r diwydiant yn gweithio. Wedi’r brifysgol ‘roeddwn am ganolbwyntio ar ganu, ac felly mi ffurfiais fand gyda ambell i ffrind gan fwrw ati i gyfansoddi. Fe arweiniodd hyn at gael perfformio gigs anhygoel ac mewn nifer o ŵyliau cerddorol ar hyd a lled y wlad.

‘Roeddwn yn awyddus i ymhel â phrofiadau creadigol gwahanol hefyd, ac fe dreuliais beth amser yn cydweithio a mentora cerddorion ifanc addawol, yn dysgu ac yn trefnu digwyddiadau elusennol. Tra’n gweithio ym myd marchnata nes i sylweddoli’n syth cymaint yr oeddwn yn ei fwynhau.

Yn ystod y cyfnod yma mi dderbynais ebost gan ffrind yn holi os oedd diddordeb gen i i gydweithio gyda merched eraill yn y maes cerddoriaeth ym Mryste, er mwyn sefydlu cymuned i gefnogi lleisiau merched ar draws y diwydiant. Teimlais yn gryf erioed ynglŷn a chynrychiolaeth merched mewn cerddoriaeth, ac wedi cwrdd a phobl eraill oedd yn rhannu’r un meddylfryd â minnau, ‘roeddwn yn llawn brwdfrydedd. Ar ôl llwythi o gyfarfodydd fe sefydlwyd Bristol Women in Music ac mi gynhalwyd ein cynhadledd gyntaf, Sound Industry, gan ganolbwyntio ar bynciau yn ymwneud â gender, goroesi a chynnal gyrfa, a iechyd meddwl ym myd cerddoriaeth. ‘Roedd y profiad yn agoriad llygad, yn un heriol ac yn addysgiadol. Mi sylweddolais gymaint ro’n i’n mwynhau gweithio ar ddigwyddiadau mawr, ble y gellir ddysgu gan eraill a phrofi ffyrdd newydd o feddwl.

Yn dilyn corwynt o gynhadledd yr oeddwn bellach yn chwilio am fy her nesaf. Pan welais y rôl yma gyda Gŵyl y Llais yn cael ei hysbysebu, doeddwn i’m cweit yn gallu credu’r peth…gŵyl oedd yn dathlu’r llais yn ei chyfanrwydd gan annog pobl i ddarganfod cerddoriaeth newydd! Doeddwn i’m yn gallu dychmygu ffordd gwell i dreulio’r naw mis nesaf, ac felly mi ymgeisiais gan obeithio am y gorau!

Wyth wythnos yn ddiweddarach a dyma fi’n ‘sgwennu hwn yn hollol gartrefol yn swyddfa Gŵyl y Llais, ac mae’r tîm wedi fy nghroesawu’n llwyr. Dwi’n teimlo’n anhygoel o ffodus o gael gweithio ar yr Ŵyl nesaf wrth i ni baratoi ar gyfer unarddeg diwrnod anhygoel o gerddoriaeth, theatr a chelfyddyd.

Mae’r prysurdeb yn y swyddfa yn cynyddu’n barod wrth i mi ymgynefino a’m rôl newydd; hyd yn hyn dwi ‘di helpu lawnsio’r wefan newydd (gobeithio ‘da chi’n ei hoffi!), wedi cyfrannu i sianelau cymdeithasol Gŵyl y Llais a chynnig syniadau creadigol ar gyfer gwahanol ymgyrchoedd. Dwi rwan yn ychwanegu cynnwys a blogiau i’n gwefan newydd, ac yn casglu ac ysgrifennu newyddion cyffrous ar gyfer ein cylchlythyr digidol misol. Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar i weld sut y bydd yr Ŵyl yn dechrau ffurfio dros y misoedd nesaf. Mae’n dasg annodd i gadw’n ddistaw ynglŷn a’r holl bethau sydd ar y gweill yn 2018, ond dwi’n gwybod y bydd yr holl aros yn talu ar ei ganfed pan gawn ni rannu’r rhaglen o’r diwedd gyda phobl Caerdydd a thu hwnt.

Postwyd gan