Profi’r byd ar eich stepen ddrws

gan Elen Roberts

Fi yw un o Swyddogion Marchnata a Chyfathrebu Llawrydd Gŵyl y Llais eleni. Ers ymuno a’r tîm ym mis Hydref, dwi ‘di bod yn brysur ymgyfarwyddo’n hun gyda’r holl ddigwyddiadau a phrofiadau gwych sydd ar y gweill gennym ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Felly dyma ychydig bach amdana’i…

Mae cerddoriaeth wastad wedi chwarae rhan blaenllaw yn fy mywyd. Mi ddechreuais gael gwersi piano yn chwe mlwydd oed, gan symud ymlaen i drio’r clarinet, diflasu ar hwnnw, a cheisio’r sacsoffôn yn lle. ‘Roeddwn yn hoff o ganu hefyd, gan fwynhau canu ac arwain corau yn enwedig. Bu’r Eisteddfod yn ddigwyddiad blynyddol yng nghalendr ein hysgol, ac yn bendant ‘roedd mwy o bwyslais ar yr ochr gerddorol yn hytrach na’r adrodd neu actio. Ffafriais fod yn aelod o ensemble neu gôr yn hytrach na chystadlu fel unigolyn, oherwydd i mi, does dim all gymharu â bod yn un o blith nifer sy’n llwyddo creu rhyw undod lleisiol a cherddorol, a dwi’n falch nes i barhau i ganu mewn côr tra’n y brifysgol hefyd.

Ymddiddorais erioed mewn diwylliannau eraill, ac mae teithio wedi bod yn ran annatod o’r hyn dwi wedi ei wneud dros y ddegawd a mwy ddiwethaf. Cryfhaodd fy hoffter o deithio a’r celfyddydau’n gyffredinol yn ystod fy nghyfnod fel myfyriwr, ac mi lwyddais ymhelaethu fy ngwaith ymchwil (ynghŷd a mymryn o bleser!) gyda thripiau i Ewrop, Canolbarth America a’r Caribî. Yn dilyn taith chwe mis drwy Dde America wedi i mi gwblhau fy nghwrs meistr, mi ddychwelais i Gaerdydd i weithio gyda Artes Mundi. Yma y cefais fy nghyfle cyntaf i weithio ar ddigwyddiad celfyddydol dwyflynyddol ar raddfa fawr, gan ddysgu am y gwahanol agweddau o lwyfannu digwyddiad o’r fath. Yma hefyd y cefais y cyfle i gymeryd cyfnod sabothol, gan fynd i Berlin am dri mis i gymeryd rhan yng Nghynllun Leonardo, â ariannwyd gan yr UE, ymhle y bûm yn gweithio mewn oriel gelf. Wedi dychwelyd i Gaerdydd, fe ymunais â Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, gan weithio fel Swyddog Datblygu am bedair blynnedd. Fe fu’n gyfle gwych i gyfuno fy hoffter o deithio â dysgu am ddiwylliannau eraill, gan ddathlu a hyrwyddo celfyddydau gorau Cymru.

Credaf yn gryf yng ngallu profiadau rhyngwladol i ddylanwadu’n sylweddol ar agwedd pobl, gan drawsnewid y modd y mae person yn gweld y byd, a’r ffordd y maent yn lleoli eu hunain ynddo. Ond nid oes angen gadael Cymru, na Phrydain hyd yn oed, er mwyn cael profiad rhyngwladol – mi all ddigwydd reit ar eich stepen ddrws. Yn ystod yr haf mi gymhwysais i ddysgu Saesneg fel iaith dramor. Ynghanol amgylchedd hollol ryngwladol, cefais fy atgoffa bod pobl o bob cwr o’r byd yn dod i Gaerdydd – fel ymwelwyr ac i ymgartrefu yma– a bod cymaint ganddom i rannu ac i frolio am ein dinas!

Dyna pam dwi’n grediniol bod profiadau y gellir eu hennill drwy ddigwyddiadau rhyngwladol fel Gŵyl y Llais mor bwysig. Maent yn gallu dod a rhai o artistiaid gorau’r byd a phrofiadau eithriadol yma atom ni. Cawn ninnau’r cyfle i arddangos ein dinas a’r gallu creadigol anhygoel sydd yma ochr yn ochr a hwy, ar yr un platfform rhyngwladol.

Dwi ‘di bod yn gweithio’n llawrydd ers pum mis bellach, ac mae’r cyfnod wedi bod yn addysgiadol i ddweud y lleiaf, ond mae’r profiad wedi dod â boddhad mawr i mi. Treuliaf fy amser yn gweithio ar brosiectau celfyddydol rhyngwladol, yn dysgu Saesneg fel ail iaith, ac yn canfod llefydd newydd. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i weld sut y bydd yr ŵyl yn datblygu, ond yn bwysicach i’w rhannu gyda thrawsdoriad o bobl eang ac amrywiol Caerdydd, a thu hwnt.

Postwyd gan