The Hot Sardines

New Theatre
Cymerwch linell flaen pres, ychwanegwch feistrolaeth piano stride a chantores sydd ag ymddygiad difa cabaret o’r ’30au a dyna chi The Hot Sardines. Heb anghofio’r tapddansiwr wrth gwrs!

Wedi’u disgrifio gan Forbes Magazine fel “one of the best jazz bands in New York today”, mae gan The Hot Sardines rysáit arbennig sy’n creu hud a lledrith cerddorol. Wedi’u trwytho mewn jazz hirfelyn tesog a swing sipsi llesmeiriol – y cyfuniad perffaith o Baris rhwng y rhyfelodd a Jazz cynnar New Orleans – mae’u perfformiadau lliwgar yn croesi cenedlaethau ac yn cyfareddu cynulleidfaoedd gyda jazz sy’n diffinio oes y ’20au, ’30au, a’r ’40au.

Cafodd y DU eu profiad cyntaf o The Hot Sardines yn EFG London Jazz Festival gyda dwy sioe a werthodd bob un tocyn, a chynulleidfaoedd yn dawnsio’n yr eil. Ers hynny, maen nhw wedi ymddangos ar Sioe Andrew Marr y BBC ac wedi ymuno â Gŵyl y Llais fel rhan o daith i ddod â swing sipsi Efrog Newydd i leoliadau ledled y wlad.

 

www.hotsardines.com | @hotsardines

Reviews

“Unforgettably wild, consistently electrifying. A live music powerhouse” Popmatters