Keaton Henson

New Theatre

Yn artist gwbl unigryw sy’n gantor, bardd a’n darlunydd, daeth Keaton Henson i wneud perfformiad byw hir-ddisgwyliedig yng Ngŵyl y Llais.

Heb gogio dim am ei ofn o’r llwyfan, mae caneuon y cyfansoddwr diymhongar yma’n cyfuno’i onestrwydd emosiynol a thalent aruthrol gyda llais melancolaidd sy’n cael ei gymharu i Jeff Buckley.

Yn y noson fythgofiadwy yma, perfformiodd Henson gerddoriaeth o’i dri recordiad: y caneuon syml, tyner o Dear… a gyfansoddwyd yn wreiddiol heb fwriad i gael eu clywed; y dilyniant nodedig, Birthdays, sy’n trafod heriau cariad newydd a thor-calon; a’r cwbl offerynnol Romantic Works wnaeth Henson recordio yn ei ystafell fechan yn Llundain i adrodd casgliad o straeon nad oedd yn gallu mynegi mewn geiriau.

www.keatonhenson.com | @KeatonLyrics

Reviews

‘Spellbinding… Delicate and mournful, yet without self-pity’ The Guardian