Le Mystere Des Voix Bulgares

Eglwys Gadeiriol Llandaf
Mae enillwyr gwobr Grammy, yr ensemble lleisiol Le Mystere Des Voix Bulgares, yn cyfuno harmonïau iasol ag alawon torcalonnus.

Wedi’u ffurfio gan sylfaenydd arddull gyngerdd cerddoriaeth werin Bwlgaraidd, Philip Koutev, mae’r ensemble wedi derbyn nifer o anrhydeddau rhyngwladol ers rhyddhau eu cyfrol gyntaf Le Mystere Des Voix Bulgares yn 1986, gan sefydlu llais unigryw yn nhreftadaeth gyfoethog cerddoriaeth werin Bwlgaraidd. 

Mae’r caneuon yn hynafol, yn dyddio’n ôl i reolaeth byddin Twrci, ond wedi’u siapio a’u mireinio dros y blynyddoedd gan Le Mystere Des Voix Bulgares o dan gyfarwyddyd Dora Hristova. Wrth ymweld â Chymru am y tro cyntaf ers deng mlynedd, gweithiodd Dora a’r grŵp gyda rhai o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Bwlgaria i ddod â phrofiad cyfareddol, bythgofiadwy i Ŵyl y Llais. 

 

www.themysteryofthebulgarianvoices.com