Orphy Robinson yn cyflwyno Astral Weeks Van Morrison gyda Zara McFarlane

Amser Gorffen Tua 7:00yp

Yn y sioe hon bydd Orphy Robinson yn defnyddio jazz a chanu’r enaid i gyflwyno’i ddehongliad arbennig o ‘Astral Weeks’, campwaith Van Morrison o 1968, a hynny i nodi hanner canmlwyddiant rhyddhau’r record. Gyda’i gyfuniad hudolus o gyffyrddiadau jazz, gwerin a chanu’r enaid, mae’r albwm hwn yn cael ei ystyried ymhlith recordiau mwyaf dylanwadol erioed yr ugeinfed ganrif. 

Bydd Orphy Robinson, yr offerynnwr amryddawn, yn cynnull rhai o chwaraewyr jazz gorau'r Deyrnas Unedig er mwyn ail-ddehongli trefniadau trosgynnol ‘Astral Weeks’. Gan ddatblygu ar ei deyrnged nodedig i Bobby Hutcherson, a’i rôl fel Cyfarwyddwr Cerddorol/Cynhyrchydd ar Albwm a Thaith ‘Cage Street Memorial’ Carleen Anderson, dyma’i brosiect mwyaf uchelgeisiol hyd yma.

Yn ymuno ag Orphy fe fydd Zara McFarlane, y gantores-gyfansoddwraig sydd wedi ennill gwobr Mobo. Mae ei gwaith yn drawiadol o swynol, a hithau wedi’i henwi’n un o gantorion jazz du mwyaf blaenllaw Prydain. Cyhoeddodd dri albwm hyd yma, sydd wedi ennill cryn glod, a’r rheini’n ein cyflwyno i dirlun cerddorol anarferol wrth arbrofi â deunydd gwreiddiol ac ailweithio clasuron y byd jazz a cherddoriaeth Jamaica. Drwy ei rhythmau heintus a’i geiriau cymdeithasol, mae Zara yn agor y drws ar bosibiliadau cerddorol hunaniaeth Brydeinig-Jamaicaidd.

 

Zara McFarlane

 

Reviews

"Leading UK vibes player and Jazz Warrior Orphy Robinson has brought together a new generation of UK jazz players to reinterpret the transcendental arrangements of Astral Weeks for a live performance of the album". RTE