Rufus Wainwright + Ala.Ni

Theatr Donald Gordon
Mae Rufus Wainwright wedi ennill enw fel un o gantorion a chyfansoddwyr gorau’r oes.

Yn hanu o un o deuluoedd mwyaf adnabyddus cerddoriaeth werin, mae Wainwright a’i frand o bop theatraidd ar flaen y gad fel un o dalentau mwyaf dyfeisgar y byd cerddoriaeth gyfoes. Wedi’i eni yn Efrog Newydd a’i fagu ym Montreal, mae wedi rhyddhau saith albwm stiwdio ac wedi gweithio ar y cyd ag artistiaid sy’n cynnwys David Byrne, Boy George, Joni Mitchell, Robbie Williams a’r cynhyrchydd Mark Ronson.

Yn ddyn sioe anhygoel sydd â llais digyffelyb, dychwelodd i Ganolfan Mileniwm Cymru ar ôl gwerthu pob tocyn yn ei berfformiad yno yn 2007.

Y gantores-gyfansoddwraig a’r cynhyrchydd Ala.Ni oedd yn cefnogi Rufus yng Ngŵyl y Llais. Wedi graddio o’r Sylvia Young Theatre School a chanu harmonïau ar gyfer Blur, Andrea Bocelli a Mary J. Blige ymhlith eraill, mae’i chaneuon oesol wedi’u trefnu â thynerwch diderfyn ac wedi’u perfformio â chyffyrddiadau cyfareddus difa jazz. Llyfn, melancolaidd ac yn cael ei chymharu’n aml â Billie Holiday cyfoes, mae perfformiadau lleisiol Ala.Ni yn wirioneddol unigryw.

 

www.rufuswainwright.com | @rufuswainwright

www.ala.ni | @alaniofficial