The Tiger Lillies

The Ballad of Sexual Dependency

Mae The Ballad of Sexual Dependency gan Nan Goldin yn stori ffotograffig hynod bersonol, a honno wedi deillio o brofiadau’r artist yn Boston, Efrog Newydd a’r Berlin ranedig yn niwedd y 1970au, y 1980au, ac ers hynny. 

Bydd Tiger Lillies, enwogion mawr y byd cabaret amgen, yn perfformio trac sain byw i gyd-fynd â’r faled a lluniau dirdynnol Nan Goldin, a hwnnw’n ddarn di-dor o gerddoriaeth sy’n esblygu ac yn cynrychioli hyfrydwch, poen, gorfoledd, trasiedi a thristwch perthnasau. 

Mae’r sioe yn cynnwys 45 o sleidiau, dros 700 o luniau a thrac sain, ac mae’n debyg i ffilm mewn sawl ffordd. Ymddangosodd The Ballad of Sexual Dependency, sydd wedi’i hail-olygu a'i diweddaru’n rheolaidd, am y tro cyntaf ar y gylchdaith glybiau yn Efrog Newydd, cyn cael ei dangos mewn amgueddfeydd, orielau, gwyliau ffilm a gofodau amgen ledled y byd.

Tigerlillies.com

Twitter.com/thetigerlillies

Bydd tocynnau yn cael eu gwerthu hyd at 4:30yp ar ddiwrnod y perfformiad. Ar ôl yr amser yma, bydd tocynnau ar gael o’n swyddfa docynnau ar 02920 646 900


Llun The Tiger Lilles, The Ballad of Sexual Dependancy gan Lukas Hueller

Reviews

‘Just brilliant and utterly fantastic! You'll never hear more perverse and twisted as well as haunting and sorrowful songs’ - Marc Almond