Utopia

Wedi'i guradu gan Charlotte Church

YN CYNNWYS: 

IONNALEE: IAMAMIWHOAMI 

FATOUMATA DIAWARA 

LE GATEAU CHOCOLAT 

TALIA RANDALL 

GYDA DJS 

Wedi’i guradu gan Charlotte Church, mae Utopia yn cyfuno rhaglen o leisiau cyferbyniol o gerddoriaeth fyd, cabaret, electronica, synth-pop a gwerin, a’r cyfan wedi cwtsho at ei gilydd. 

Prosiect unawdol newydd yw Ionnalee gan Jonna Lee, sef creawdwr y ffenomen pop electronig clyweled iamiwhoami. Mae hi’n ymchwilio marwolaeth a chreu etifeddiaeth yn ei halbwm a ffilm drawiadol EVERYONE AFRAID TO BE FORGOTTEN. 

Mae Fatoumata Diawara yn fardd-gantores gryglyd â thraw perffaith. Magwyd Diawara ar gerddoriaeth Wassoulou, arddull a ystyriwyd yn un o gyndadau’r blŵs. Cyd-gynhyrchwyd ei halbwm gan Mathieu Chedid (-M-) ac mae’n ymdoddi synau traddodiadol a chyfoes Affricanaidd. 

Mae gwaith Le Gateau Chocolat yn ymestyn y tu hwnt i fyd perfformiadau drag i opera gyfoes ac ymhellach fyth – dyma chwedl cabaret sydd wedi perfformio ar lwyfannau mawr ledled y byd o Adelaide i Edinburgh, a Wroclaw i Sydney. 

Mae Talia Randall wedi ennill gwobrau am ei pherfformiadau doniol, gwleidyddol a gwefreiddiol. Fel person dyslecsig a godwyd mewn cartref lle’r oedd y parch mwyaf i fwyseiriau, jôcs ac ystyron deublyg, datblygodd Talia ei llais yn yr enwog Roundhouse Poetry Collective.