Amartüvshin’s Favourite Arias with Llŷr Williams

Theatr Reardon Smith
Diddannodd y bariton o Fongolia Amartüvshin Enkhbat gynulleidfaoedd Gŵyl y Llais gyda chasgliad o’i hoff ariâu operatig, wedi’i gyfeilio gan y pianydd Cymreig nodedig Llŷr Williams.

Ar ôl gadael ei farc ar Gaerdydd fel enillydd Gwobr y Gynulleidfa yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd, dychwelodd Amartüvshin i’r ddinas ar gyfer noson o ariâu a chaneuon gan rai o gyfansoddwyr gorau’r byd, ynghyd â cherddoriaeth efallai ychydig llai enwog ymhlith cynulleidfaoedd opera’r gorllewin, ond sydd yr un mor brydferth ac yno’n aros i gael ei darganfod. Bu ffefrynnau’n cynnwys ariâu o Rigoletto gan Verdi, Pagliacci gan Leoncavallo, Prince Igor gan Borodin ac Aleko gan Rachmaninov. Fel seren ifanc, bu Amartüvshin yn Artist Anrhydeddus ym Mongolia ers iddo fod yn 24 mlwydd oed ac mae eisoes wedi ennill nifer o wobrau ac enw rhyngwladol gyda pherfformiadau ledled y byd, gan gynnwys Paris, Moscow, Efrog Newydd, Beijing, Seoul a Singapore.

Bu’r ffefryn ymhlith cynulleidfaoedd Cymreig Llŷr Williams yn treulio tri thymor yn ymwneud â cherddoriaeth Beethoven, gan gynnwys cylch sonata yn Wigmore Hall Llundain a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a chyfres concerto lawn gyda cherddorfa siambr yr Alban. Mae’n gyfeilydd cyson gyda’r gystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd a hefyd wedi perfformio’n ddiweddar gyda’r soprano Jamie Barton a’r bariton Quinn Kelsey.