The Last Mermaid

Stiwdio Weston

Première Byd

Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru
Comisiynwyd ar gyfer Gŵyl y Llais

Wedi’i greu ar y cyd gan Charlotte ChurchJonathan Powell a Siôn Trefor
Cyfarwyddir gan Bruce Guthrie
Perfformir gan Charlotte Church a chwmni o actorion / cantorion

Roedd y comisiwn arbennig yma ar gyfer Gŵyl y Llais yn dathlu symudiad, cerddoriaeth, golau ac – wrth gwrs – y llais. 

Yn nyfnderoedd tywyllaf y môr, mae’r fôr-forwyn olaf yn codi o’i chragen ac yn darganfod taw hi yw’r unig un sydd ar ôl yn y deyrnas goll. Gyda help llaw cymar newydd, y morfil olaf, mae gan y fôr-forwyn gyfle i dorri’n rhydd o’r byd o dan y don a chamu, am y tro cyntaf, ar dir sych. Ond beth sy’n disgwyl amdani uwchben y tonnau? 

Gyda cherddoriaeth wreiddiol ac ysbrydoliaeth gan chwedl werin boblogaidd Hans Christian Andersen, The Little Mermaid, roedd y cynhyrchiad gwefreiddiol yma yn cynnwys Charlotte Church yn y brif ran. Addaswyd ar gyfer y llwyfan gan y tîm oedd y tu ôl i’r cynhyrchiad pum seren Man to Man.