Laura Mvula + Yaël Naïm

Theatr Donald Gordon

Laura Mvula yw un o’r talentau cerddorol mwyaf cyffrous i ddod o’r DU yn ddiweddar.

Mae cerddoriaeth y gantores-gyfansoddwraig yma sydd wedi’i hyfforddi’n glasurol yn asio enaid cerddorfaol gyda harmonïau felfed a llais emosiynol yn nhraddodiad Nina Simone, George Gershwin a Björk. Gwnaeth ei albwm cyntaf, Sing to the Moon, a ryddhawyd yn 2013 adael ei farc, gan ymddangos ymhlith rhestrau albwm gorau’r flwyddyn The Wall Street Journal, NPR, Rolling Stone, The New York Times, LA Times, People Magazine, Vulture, New York Daily News, Buzzfeed, a llawer mwy. Cyrhaeddodd yr albwm y 10 uchaf ar Siart Albwm y DU, gan dderbyn enwebiadau Gwobrau Mercury, Ivor Novello a Brit ac arwain at Laura’n ennill gwobrau ar gyfer yr act benywaidd orau a’r artist R&B neu soul gorau yng Ngwobrau MOBO 2013.

Yn fuan ar ôl ei chywaith gyda Nile Rodgers, Overcome, a gyda’i hail albwm yn agosáu at gael ei ryddhau, daeth Laura a’i sain unigryw i Ŵyl y Llais mewn noson sy'n bendant o aros yn y cof.

Yaël Naïm oedd yn agor i Laura, gan ddod â’i phop siambr soffistigedig a’i llais gwefreiddiol i Ŵyl y Llais. Ganwyd Yaël ym Mharis ond magwyd yn agos i Tel Aviv gan ei rhieni o Diwnisia. Roedd ei blynyddoedd cynnar yn cynnwys tiwtoriaeth biano clasurol a chyfnod mewn band mawr Israelaidd. Mae’i cherddoriaeth yn llawn ffraethineb ac yn gyfuniad hynod o’i chefndir aml-ddiwylliannol a diwylliant Caribïaidd ei gŵr a’i chyd-gynhyrchydd, David Donatien. Wedi’i hadnabod orau am y gân lwyddiannus o 2008, New Soul, mae Naïm yn cael ei chlodfori am ei llais cain ond pwerus. Cafodd ei henwi’n ddiweddar fel Artist y Flwyddyn Ffrainc 2016.

Reviews

“Beautiful in voice and soul, lift your eyes skyward and watch this girl soar.” Clash Magazine