PENTRE'R ŴYL
Ar agor Dydd Llun i Dydd Iau , 12pm – 9pm
Ar agor Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, 12pm – 10pm
Mae Pentre'r Ŵyl yn wagle unigryw wedi ei greu er mwyn ateb eich anghenion ymlacio. Gyda stondinau bwyd stryd leol, cerddoriaeth byw, DJs a chy eoedd i ddysgu rhagor am pam yr ydyn ni gyd yma – llais a cherddoriaeth.
Dewch i archwilio rhai peiriannau cerddorol rhyfedd bydd yn eich dysgu chi ynglŷn â rhyfeddodau gwneud sain – efallai byddan nhw’n eich helpu chi werthfawrogi a deall eich digwyddiad nesaf. P’un ai ydych chi’n mynd i’ch sioe nesaf, yntau wirioneddol eisiau aros allan i fwynhau’r awyrgylch am ychydig, byddwn ni yma gyda bwyd, hwyl a cherddoriaeth. Dewch lawr i gwrdd â’ch cyd-fynychwyr cerddorol ac ymgollwch mewn rhyfeddodau’r byd cerddoriaeth.
RHAGLEN
DYDD GWENER 8 MEHEFIN
12pm - 10pm
5pm DJ Super Sonic Disco
5:30pm Perfformwyr y Pentre'
7pm Lori Campbell
8pm Disgo DJ Super Sonic
9pm Cwis Cerddorol
STONDINAU:
Printhaus
Yellow Back Books
Hard Lines
DYDD SADWRN 9 MEHEFIN
12pm - 10pm
12pm Disgo DJ Super Sonic Disco
1pm Perfformwyr y Pentre'
3pm Antioch Rig
5pm Dare To Sing Choir
6pm Perfformwyr y Pentre'
7:30pm Cwis Cerddorol
9pm Disgo DJ Super Sonic
STONDINAU:
Printhaus
Yellow Back Books
Hard Lines
Dydd Sul 10 Mehefin
12pm - 9pm
12pm Perfformwyr y Pentre'
1pm Gweithdy No Pressure
3pm Perfformwyr y Pentre'
5pm Gweithdy Decibelles
6pm Perfformwyr y Pentre'
7pm Nulua Honan
8pm Disgo DJ Super Sonic
STONDINAU:
Yellow Back Books
Hard Lines
DYDD LLUN 11 MEHEFIN - DYDD MERCHER 13 MEHEFIN
12pm - 9pm
Caffi Iaith Oasis
Arddangosfa Ffotograffiaeth Simon Bray
Bwyd Stryd
Gosodiad Platonic Cloud
Perfformwyr y Pentre'
Disgo DJ Super Sonic
Cwis Cerddorol
Peiriannau Sain Rhyngweithiol
DYDD IAU 14 MEHEFIN
12pm - 9pm
6pm Perfformwyr y Pentre'
7pm Nulua Honan
8pm Disgo DJ Super Sonic
DYDD GWENER 15 MEHEFIN
12pm - 10pm
3pm Côr Rising Voices Choir
5pm Adventure Bureau
7pm Reeps One
8pm Disgo DJ Super Sonic
9pm Cwis Cerddorol
SATURDAY 16th
12pm - 10pm
12pm Disgo DJ Super Sonic
1pm Perfformwyr y Pentre'
3pm Gweithdy canu
5pm Gweithdy canu
6pm Cwis Cerddorol
7pm Perfformwyr y Pentre'
8pm Disgo DJ Super Sonic
9pm Lori Campbell
DYDD SUL 17 MEHEFIN
12pm - 9pm
12pm Disgo DJ Super Sonic
1pm Perfformwyr y Pentre'
3pm Gwiethdy Visualiser
5pm Psycho Bettty
6pm Perfformwyr y Pentre'
7pm Mike Dennis
8pm Disgo DJ Super Sonic
ADVENTURE BUREAU
Mae The Adventure Bureau yn dîm o fyrfyfyrwyr arbenigol, ac maent yma i greu antur newydd digri tu hwnt, wedi ei ysbrydoli gan eich syniadau chi. Mae Katie a Simon yn gwahodd y gynulleidfa i rannu eu syniadau gan eu darlunio, eu ‘sgwennu neu eu gweiddi allan, gan wedyn berfformio y stori sydd wedi ei fyrfyfyrio, ynghyd â thrac sain a chaneuon a greuwyd yn fyw o’ch blaen! Dewch ac ysbryd anturus a gwirion i brofi’r hyn sydd i ddod!
DARE TO SING CHOIR
Does dim rhwystr cymdeithasol nac o ran oedran gyda Dare To Sing; mae croeso i bawb ac fel torf ‘rydym yn cwrdd i ganu caneuon egnïol er mwyn pleser yn unig. Nawr ein bod wedi tyfu i fod yn griw o dros wythdeg o fenywod, ‘rydym wedi ehangu ein repertoire, wedi rhoi eli penelin i’n deiamwntiau crand, gan ddechrau perfformio mewn digwyddiadau lleol. ‘Rydym yn mwynhau ac yn gwerthfawrogi’r cyfle i ganu, boed yn ein hymarferion wythnosol neu yn gyhoeddus. Mae Dare To Sing yn cynnig awyrgylch ymlaciol sy’n ein galluogi i ffocysu i greu a phrofi emosiwn drwy gerddoriaeth.
PERFFORMWYR Y PENTRE’
Mae tri cymeriad chwareus, cythreulig a chwilfrydig gyda’r dasg I’ch cefnogi dros gyfnod yr Ŵyl. Os mae eich hegni dechrau pylu, mi wnai’r tri yma eich deffro. Os ‘da chi’n dechrau cyffroi mymryn gormod, byddent yna i’ch tawelu. Beth bynnag yw’r dasg, mi fydd y tri yma ym Mhentre’r Wyl drwy’r dydd.
LORI CAMPBELL
Mae’n anhebygol gweld Lori Campbell, sy’n hanu o Fryste, yn perfformio ei chaneuon yn union yr un modd ddwywaith. Mae hi’n berfformwraig byw deinamig a mympwyol. Drwy blethu ei llais amryddawn a’i harddull crwydrol gitar werinol, mae’n creu gofod clos sy’n eich gwahodd i ymuno yn y profiad.
Rhyddhaodd Lori ei EP cyntaf ‘Seeds’ yn 2015, ac fe fu mwy neu lai yn byw ar y lôn gan gigio’n helaeth ar draws y DU mewn gŵyliau megis Glastonbury, Secret Garden Party, Larmertree, Wilderness, Shambala a Y Dyn Gwyrdd. Yn syml- os nad ydych wedi gweld y gantores werin yn plethu’i hud a’i lledrith ar ei gitar fechan eto, peidiwch a methu’r cyfle!
MIKE DENNIS
Fiolinydd clasurol yw Mike Dennis, a diolch i’w hoffter fel bachgen am Run DMC, Beastie Boys a Gangstarr, fe’i arweinwyd i greu math unigryw o gerddoriaeth llinynnol hip hop, y mae e’n alw’n “Violinica”. Wrth berfformio mae’n defnyddio Jess (y fiolin), pedal ddolen a chajon. Mae’n adeiladu haenau o harmonïau trwchus, gan eu haddurno gyda odlau meddylgar ac egnïol, sy’n deillio o fywyd pob dydd Prydeinig wrth arsylwi ‘cariad’ mewn modd obsesiynol o wyrdroi rhythm a thrawsacen.
CWIS CERDDOROL
Ymunwch gyda ein perfformwyr craidd i arddangos eich gwybodaeth gerddorol ac efallai hyd yn oed eich dawn lleisiol….
NUALA HONAN
Yn enedigol o Awstralia, mae Nuala Honan yn artist deinamo, sydd â egni cerddorol anifeilaidd yn ei meddiant. Mae’n hawlio sylw gyda’i hagosatrwydd a’i chynhesrwydd gwledig. Mae ganddi’r gallu annatod hwnnw i ‘sgwennu caneuon newydd sy’n swnio’n hollol gyfarwydd, gan rywffordd greu’r argraff bo’r geiriau wedi meddalu gyda threigl amser. Llwyddai i gyfleu cydbwysedd o bŵer emosiynol bregus ynghyd â gobaith penderfynol wrth wynebu heriau bywyd.
Mae’n dwyn i ffrwyth pymtheg mlynnedd o brofiad gyda perbectif a sŵn newydd, sy’n gymysgedd o ddylanwad diffeithwch ei magwriaeth gwledig, a’i chyfoedion ffyrnig canu pop benywaith (tebyg i Margaret Glaspy, Angel Olsen a Aldous Harding).
PSYCHO BETTY
Fe gynlluniodd Saeko batrymau ar gyfer sidan kimonos mewn ardal wedi ei lorio gan ryfel ar gyrion Tokyo yn y 1950au. Yn y cyfamser, yng Nghymru, ‘roedd Betty yn ceisio darganfod ffordd allan o’i thref glofaol drwy ddilyn trywydd iachäwr cyfrin. Dwy genhedlaeth yn ddiweddarach, mae atgofion dwy ddynes o naill ben y byd yn cael eu taflu gyda’i gilydd mewn cymysgfa gerddorol.
Grŵp ac iddo bedwar aelod yw Psycho Betty. Fe’u creuwyd wedi i ddau berfformiwr gwerin o’r DU chwarae mewn noson ‘Noise’ yn Nhokyo. Plethïr leisiau melodaidd drwy haenau o wead sain atmosfferaidd, wedi eu creu ar gitar drydan, mandolin, accordion a drymiau.
Ysgrifennwyd y geiriau i gyd gan neiniau yr aelodau! A’i dyma eni Naintronica fel genre?!
RISING VOICES - RECOVERY CHOIR
Grŵp canu wythnosol yw Rising Voices sydd i bobl sy’n gwella o ddibynniaeth ar gyffyriau neu alcohol, eu teuluoedd, gofalwyr a phobl sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y gwasanaethau trin yw Rising Voices. Ein harweinydd profiadol yw Isolde Freeth-Hale. Ers ffurfio ym mis Tachwedd 2014, yr ydym wedi creu gofod unigryw a thrawsnewidiol i alluogi pobl ddod ynghyd i ganu, i wneud cysylltiadau positif, i deimlo’n well, i gymdeithasu ac i godi ysbryd drwy bŵer can. Ymunwch gyda ni mewn cân, dewch i glywed storïau ambell i aelod gan sylweddoli y gwahaniaeth y gall cân wneud i fywyd.
DISGO SUPER SONIC
Mae Max o Super Sonic Disco yn ymroddedig i godi dwylo pawb mewn ton o hapusrwydd, mewn awyrgylch parti gorfoleddus. Drwy chwarae cymysgedd o recordiau soul, disgo a ffync law yn llaw gyda chlasuron cyfredol, maent yn ymroddedig i greu pleser hwyrnos lle bynnag mae’r gerddoriaeth yn eu tywys.
Y BWRDD TELEFFON A’R BWRDD DOLEN gan Owen Rimington
Cynllunydd, gwneuthurwr a dyfeisiwr o Ganolbarth Cymru yw Owen Rimington. Mae o’n ymddiddori ym mhopeth, ac yn creu darnau o gelf anhygoel sy’n amrywio o arwyddion mawr, i waith animeiddio a gosodiadau rhyfeddol.
Mae’r Byrddau Teleffon yn amrywiad ar hen daclau cyfathrebu fel y Teleffon Tin Can a’r Tiwb Siarad. ‘Rydym yn eich gwahodd i eistedd ger y byrddau picnic i drafod eich cinio drwy’r twneli lliwgar. Pwy a wyr pwy glyw eich sŵn!
Darganfyddwch bŵer hypnotig sŵn ailadroddus ger Y Bwrdd Dolen. Dyfeisiwch eich synau i adeiladu darn o gerddoriaeth unigol, neu fel cywaith gyda cyfraniadau gan eich ffrindiau. Byddwch yn dychwelyd dro ar ôl tro!
STONDINAU
HARD LINES
Siop Goffi a Recordiau annibynnol yng Nghaerdydd yw Hard Lines. Maent yn dod a dewis detholiadol o recordiau finyl i’r ŵyl. Cewch ffeindio llwythi o gerddoriaeth o’r ŵyl yma, yn ogystal ac ambell i glasur cudd! Ewch i chwilota!
PRINTHAUS
Mae’r stiwdio printio sgrîn lleol, Printhaus, yn ymuno â ni yng Ngŵyl y Llais gyda eu gwasgfa sgrîn dros dro, yn creu ac yn gwerthu eu cynlluniau arbennig ar grysau-t a bagiau tote.
YELLOW BACK BOOKS
Gyda’r gobaith i gysylltu rhwydwaith o artistiaid, cyhoeddwyr, darllenwyr, casglwyr a gwerthwyr, mae Yellow Black Books yn anelu i gynnal trafodaethau cyfredol dwfn o gwmpas llyfrau artistiaid. Fe fydd YBB yng Ngŵyl y Llais gyda casgliad o lyfrau artistiaid ar werth, gan gynnwys gwaith lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.