Jamie Woon + Jalen N'Gonda

Tramshed

 

Daeth y canwr-gyfansoddwr o Lundain Jamie Woon â’i ganeuon prydferth, crefftus a chyfoethog i Ŵyl y Llais.

Wedi’i ddisgrifio gan y Guardian fel “a classic soul man”, mynychodd Woon y Brit School i astudio cerddoriaeth, a threuliodd nifer o flynyddoedd ar y cylch meic-agored cyn rhyddhau ei sengl annibynnol cyntaf Wayfaring Stranger – er clod i’w fam, y cantores werin Mae McKenna. Derbyniodd ei albwm cyntaf Mirrorwriting a’i sengl Night Air a gynhyrchwyd gan Burial lawer o ganmoliaeth, ond roedd Woon yn awyddus i ddatblygu sain gyda rhagor o le ar gyfer byrfyfyrio a mewnbwn gan eraill.

Ar ôl treulio’r blynyddoedd diwethaf yn cydweithio gyda Disclosure, Paul White a Portico, dychwelodd Woon yn 2015 gyda’i ail albwm, Making Time: record deimladwy, ddirgel a dwfn sy’n adlewyrchu Marvin Gaye, Lewis Taylor, D’Angelo a Massive Attack. Gyda’i sain nodweddiadol, caneuon myfyrgar ac artistwaith cain, ymddangosodd Woon yng Ngŵyl y Llais fel rhan o’i daith Ewropeaidd lwyddiannus.

www.jamiewoon.com | @jamiewoon

@JalenNgonda