Noson gyda Bryn Terfel a’i Ffrindiau

Eglwys Gadeiriol Llandaf
Cyflwynodd Gŵyl y Llais un o leisiau mwyaf ei glod yn y byd, Bryn Terfel, mewn cyngerdd atmospherig yn Eglwys Gadeiriol Llandaff.

Gyda’r gerddorfa siambr ifanc a chyffrous Sinfonia Cymru o dan faton Gareth Jones, roedd y noson wefreiddiol yma’n cynnwys Bryn, gyda gwestai arbennig Rebecca Evans a’r delynores Hannah Stone, yn perfformio ffefrynnau cerddorol ac ariâu. Gyda’r eglwys hynod a hanesyddol yn gefndir, roedd y rhaglen yn llawn dop â cherddoriaeth brydferth gan Bach, Handel a Mozart, gan gynnwys yr hudolus Concerto Rhif.6. Brandenburg.

Mae’r bas-bariton a’r Cymro Bryn Terfel yn adnabyddus am ei allu amryddawn fel perfformiwr cyngerdd, gydag uchafbwyntiau’n cynnwys seremoni agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru, Noson Olaf Proms y BBC a’r cyngerdd gala bythgofiadwy gydag Andrea Bocelli yn Central Park, Efrog Newydd. Gyda dwy Wobr Grammy a phedair Gwobr Brit Clasurol i’w enw, ac fel deiliwr Medal Gerddorol y Frenhines, caiff Bryn ei ystyried fel un o gantorion gorau’r byd.

Bryn Terfel – Bas-Baritôn
Rebecca Evans – Soprano
Hannah Stone – Telyn
Sinfonia Cymru
Gareth Jones – Cyfarwyddwr